Annwyl Riant/Ofalwr/Ymwelydd,
Croeso i’n hysgol. Yn Ysgol Dinas Brân ein nod yw sicrhau bod pob disgybl yn llwyddo mewn amgylchedd hapus, gofalgar a diogel.’Rydym yn falch o’r safonau rydym yn eu cyflawni yn yr ysgol, a hynny drwy ddisgwyliadau uchel, addysgu ardderchog ynghyd â chefnogaeth wych i’n disgyblion.
Mynegwyd yn ein harolwg Estyn diwethaf (2018) “Mae rheolwyr dysgu, gyda chymorth y rheolwyr dysgu cynorthwyol a gweddill y tîm cynhwysiant, yn gweithio’n frwdfrydig gyda’i gilydd ac yn cynnig cymorth ac arweiniad cryf i ddisgyblion. Mae hyn wedi cael effaith gadarnhaol ar wella gwydnwch a lles y disgyblion.”
Mae ein canlyniadau arholiadau wedi ein gosod ymhlith yr ysgolion sy’n cyflawni orau ar draws Cymru.Ymfalchïwn yn hyn ond ein nod yw cyflawni ymhellach. ‘Rydym ynymdrechu’n gyson i wella ymhellach er mwyn sicrhau bod pob un o’n myfyrwyr yn gadael ysgol Dinas Brân gyda’r cymwysterau a’r sgiliau i sicrhau llwyddiant yn eu llwybrau i’r dyfodol.
‘Rydym yn ysgol ddwyieithog boblogaidd a blaengar gydag oddeutu 1100 o ddisgyblion a Chweched Dosbarth o 150 sy’n ffynnu. Mae ein canlyniadau Lefel A yn ardderchog a gosodir ni yn gyson yn un o’r 25 uchaf o ran darparwyr Lefel A gyda phob un o’n myfyrwyr yn ennill eu lle yn y Prifysgolion neu brentisiaeth uwch.
Mae ein llwyddiannau wedi eu seilio ar ofal bugeiliol cryf. Cefnogwn ein holl ddisgyblion fel unigolion, boed hwy’n abl a thalentog neu yn ddisgyblion gydag anghenion addysgu penodol. Caiff y disgyblion eu cefnogi gan Diwtor Dosbarth, sy’n gweithio’n agos gyda Rheolwr Dysgu a Rheolwr Dysgu Cynorthwyol er mwyn darparu’r gofal gorau bosib ar gyfer bob plentyn. Mae ein hathroniaeth yn syml; rydym yn disgwyl i bob disgybl weithio’n galed ac ymddwyn yn dda a dangos cwrteisi a moesgarwch tuag at eraill.
Ein harwyddair yw “Llwyddiant Drwy Ymdrech” a chredwn yn gryf y dylai’r holl ddisgyblion anelu i gyflawni eu gorau glas yn academaidd neu’n allgyrsiol. Mae llawer o gyfleoedd i ragori ynddynt, boed hynny drwy chwaraeon, yn weithgareddau cerddorol, dramatig neu ymgymryd â chyfrifoldebau ychwanegol fel cynrychiolydd cyngor y myfyrwyr neu yn fentor i gyfoedion.
Mae nifer o bethau sy’n gwneud ein hysgol yn nodedig ac amrywiol; rydym yn cynnig ystod eang o bynciau yng Nghyfnod Allweddol 4 a Chyfnod Allweddol 5. Mewn cwricwlwm cyfoethog ac amrywiol mae’r ddarpariaeth yn cynnwys rhaglen gerddoriaeth unigryw a chyffrous yng Nghyfnod Allweddol 3 ac amrywiaeth eang o weithgareddau chwaraeon ac allgyrsiol. Yn ein dimensiwn cyfrwng Cymreig mae oddeutu 125 o ddisgyblion yn astudio eu pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym yn falch o’n statws dwyieithog lle gall rhieni ddewis y cyfrwng addysgol orau ar gyfer addysg eu plentyn. Rydym yn ymfalchïo yn ein cysylltiadau rhyngwladol cryf yr ydym wedi sefydlu dros nifer o flynyddoedd gydag ysgolion tramor a hefyd gyda’r Eisteddfod Ryngwladol Gerddorol yn Llangollen.
Mae Ysgol Dinas Brân yn lleoliad ardderchog ar gyfer addysg eich plentyn. Os hoffech fwy o wybodaeth yna ar bob cyfrif cysylltwch â ni.
Pennaeth
Mae Ysgol Dinas Brân yn ysgol gymunedol leol gydag enw da am ragoriaeth yn ryngwladol. Gobeithiwn fod ein prosbectws yn cyfleu awyrgylch ein hysgol ac yn rhoi cipolwg i chi ar yr hyn a wnawn. Edrychwn ymlaen at groesawu rhieni a phlant i’n hysgol.
Ein Prosbectws