Menter gan Lywodraeth Cymru yw ‘Seren’ sy'n ymroddedig i helpu myfyrwyr disgleiriaf Cymru i gyflawni eu potensial academaidd llawn a chefnogi eu llwybr addysg i brifysgolion blaenllaw (Grŵp Russell) yng Nghymru, y DU a thramor.
Mae Academi Seren ar gyfer myfyrwyr blynyddoedd 12 a 13. Mae Sefydliad Seren ar gyfer myfyrwyr uchel eu cyflawniad ym mlynyddoedd 8 i 11.
Mae Cymru wedi'i rhannu'n un ar ddeg o ganolfannau rhanbarthol er mwyn gweinyddu'r fenter hon. Ysgol Dinas Brân yw hwb Sir Ddinbych / Conwy, ac yn achlysurol cydweithir â chanolfan Wrecsam / Fflint. Mae pob canolfan yn trefnu eu rhaglen eu hunain o weithgareddau ar gyfer y flwyddyn. Ar hyn o bryd cyflwynir yr holl weithgareddau ar-lein, gyda rhai yn yr ysgol ar gyfer pob aelod a chynhelir rhai dosbarthiadau meistr gyda’r nos ble gall y myfyrwyr ymuno â hwy.
Gwahoddir myfyrwyr Ysgol Dinas Brân i ymuno â Sefydliad Seren os ydynt wedi bodloni meini prawf Mwy Abl a Thalentog yr ysgol. Mae'r rhain yn cynnwys sgoriau CAT, bodloni meini prawf adrannol, presenoldeb a chofnodion ymddygiad. Gwahoddir 12 myfyriwr ar gyfartaledd bob blwyddyn.
Mae angen i fyfyrwyr sy'n dechrau ym mlwyddyn 12 fodloni safon Llywodraeth Cymru i dderbyn gwahoddiad i ymuno ag Academi Seren. Eleni, y gofyniad oedd o leiaf 7 gradd A* TGAU neu gyfwerth.
Am ragor o wybodaeth dilynwch y ddolen