ClassCharts


Yn ddiau, mae canmoliaeth yn arf llawer mwy pwerus na sancsiynau ac yn sicr mae’n mynd law yn llaw ag ethos Ysgol Dinas Brân. O ganlyniad, anogir defnydd aml o iaith ac ystumiau calonogol yn y gwersi yn ogystal ag o amgylch yr ysgol fel bod ymddygiad cadarnhaol yn cael ei gydnabod a'i wobrwyo'n gadarnhaol

Yn Ysgol Dinas Brân, defnyddir ClassCharts yn aml fel offeryn i hyrwyddo a chydnabod ymddygiadau dysgu cadarnhaol a dathlu llwyddiannau. Dyfernir pwyntiau yn unol â pholisi ymddygiad yr ysgol. Defnyddir yr Ap hefyd i gofnodi sancsiynau negyddol a gweithgareddau gwaith cartref.

Mae gan y system ClassCharts Ap ar gyfer rhieni yn ogystal â myfyrwyr a gellir eu lawr lwytho yma gan ddefnyddio codau myfyrwyr a rhieni a gedwir gan yr ysgol. Os oes angen cod newydd arnoch, yna cysylltwch â Phennaeth Blwyddyn eich plentyn ac fe ellir trefnu hyn ar eich cyfer. 

Ar ôl ei lawr lwytho, gall rhieni a gwarcheidwaid dderbyn yr hysbysiadau diweddaraf am ymddygiad a gwaith cartref eu plentyn.

Ar wahân i rannu digwyddiadau ymddygiad cadarnhaol a negyddol gyda chi, bydd athrawon eich plentyn hefyd yn gosod gwaith cartref gan ddefnyddio'r ap, gan ei gwneud hi'n haws i rieni a gofalwyr ddeall pa waith annibynnol a ddisgwylir o wythnos i wythnos. Mae'r Ap hefyd yn olrhain a yw’r gwaith wedi'i gwblhau sydd eto'n grymuso rhieni a gofalwyr i nodi ble y gallant gefnogi eu plentyn. Yn ogystal, gellir gweld amserlen pob plentyn ar yr Ap rhiant a disgybl sy'n cefnogi’r trefnu a’r paratoi ar gyfer dysgu yn gyffredinol. 

DEWISLEN