Dyddiad hysbysebu: 10ed o Fai 2022
Dyddiad cau: 23ain o Fai 2022
Dolen i'r disgrifiad swydd: Linc
Mae Ysgol Dinas Brân yn awyddus i benodi dau Gymhorthydd Dysgu. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gyda disgyblion ar draws pob blwyddyn (7 i 11). O dan arweiniad y Cydlynydd Anghenion Ychwanegol a'r athrawon dosbarth, byddwch yn cynorthwyo disgyblion sydd ag anghenion dysgu neu ymddygiad ychwanegol. Byddai'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg, er nad yw'n hanfodol, yn ddymunol a byddai profiad o weithio gyda phlant â /neu â phrofiad o ASA yn fanteisiol. Bydd y swyddi yn dechrau cyn gynted â phosibl.