Gwasanaeth Prydau Ysgol
Yn Ysgol Dinas Brân mae ein prydau ysgol ar gontract allanol a ddarperir gan Wasanaeth Prydau Ysgol Sir Ddinbych. Mae Sir Ddinbych wedi ymrwymo i fwyta'n iach ac yn gweithio'n galed gydag ysgolion i hybu iechyd a lles disgyblion. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar eu gwefan Prydau Ysgol Sir Ddinbych.
Yma yn y Bwyty rydym yn gweini Brecwast, Egwyl a Chinio.
Yn gyffredinol, ‘rydym yn cynnig cinio DIWRNOD THEMA unwaith y mis gyda themâu megis KFC, KEBAB, INDIAIDD, EIDALEG, MECSICANAIDD, TSIEINEAIDD i enwi dim ond rhai.
Yma ym mwyty Ysgol Dinas Brân rydym wedi ennill gwobr Genedlaethol am y prydau bwyd rydym yn eu gweini i’r disgyblion.
Sut i dalu am brydau ysgol
Nid ydym yn defnyddio arian parod - yn hytrach rydym yn defnyddio system Biometreg gan ddefnyddio olion bysedd. Dyma system lle mae'ch plentyn yn rhoi ei fys/ei bys ar sganiwr wrth y til ac mae’r cyfrif yn dod i fyny ar y til er mwyn i ni allu debydu'r cyfrif yn unol â’r hyn sy’n cael ei brynu. Mae'r disgybl hefyd yn gallu gweld balans eu cyfrif wrth y til. Byddwch wedi derbyn gwybodaeth ynglŷn â hyn yn y pecyn gwybodaeth ar ddechrau blwyddyn 7.
Y ffordd hawsaf a mwyaf diogel i dalu am brydau ysgol yw drwy ddefnyddio’r ParentPay, bydd yr ysgol yn rhoi cod ParentPay unigryw i chi ar gyfer eich plentyn i’ch galluogi i ychwanegu at eu cyfrif ar-lein neu mewn PayPoint mewn siopau lleol! Drwy ddefnyddio'r system hon, byddwch chi'n gallu gweld beth mae'ch plentyn yn ei fwyta bob dydd. Sylwch na fydd y gegin yn derbyn sieciau.
Ers blynyddoedd lawer rydym wedi derbyn a chadw ein sgôr hylendid 5*.