Ar Dydd Gwener 17.10.25 cafodd Leri Roberts 11D gwahoddiad gan Dr Iwan Llewelyn Jones i berfformio yn Galeri Caernarfon, ochr yn ochr â phianyddion talentog eraill. Roedd y perfformiad yn dathlu cerddoriaeth gan Einaudi, yn ogystal â darnau gan gyfansoddwyr Ffrengig. Anrhydedd arbennig iawn – da iawn ti, Leri 'dani'n falch iawn ohonot!