T

 Cwricwlwm


Cwricwlwm i Gymru

Cyfnod Allweddol 3

Yng Nghyfnod Allweddol 3, mae pob disgybl yn dilyn ystod lawn o bynciau’r cwricwlwm cenedlaethol . Yn ganolog i’r rhain mae Saesneg a Mathemateg; mae pob disgybl yn derbyn saith awr o Saesneg a Mathemateg bob pythefnos; mae disgyblion sydd angen cymorth ychwanegol yn y meysydd hyn yn cael amser ychwanegol.

Gall pob disgybl dderbyn gwersi offerynnau cerdd am bris gostyngol neu os bydd disgyblion yn derbyn prydau ysgol am ddim - bydd y gwersi am ddim.

Cyfnod Allweddol 4

Yng Nghyfnod Allweddol 4, mae pob disgybl yn dilyn cyrsiau craidd cyffredin sef Saesneg, Mathemateg, Gwyddoniaeth, Cymraeg, Addysg Grefyddol, Addysg Gorfforol a Her Sgiliau sy’n eu darparu gyda seiliau cryf ar gyfer llwyddiant yn y dyfodol. Mae’r disgyblion hefyd yn dewis tri opsiwn o ystod eang o dros ugain o bynciau. Mae disgyblion (a rhieni) yn derbyn cefnogaeth unigol wrth wneud y dewisiadau hyn ac rydym yn sicrhau - trwy ddarpariaeth eang - bod y dewisiadau yn addas ar gyfer yr unigolyn. Mae pob disgybl yn astudio’r Gymraeg hyd at lefel TGAU. Addysgir Addysg Grefyddol i holl ddisgyblion cyfnod allweddol 3 a 4. Gall rieni ddefnyddio’u hawl i beidio cymryd rhan mewn addysg grefyddol gan wneud hynny yn ysgrifenedig i’r Pennaeth. Mae’r holl ddisgyblion yn astudio addysg gyrfaoedd trwy gyfrwng ABCh a chaiff disgyblion gyfweliadau unigol yng nghyfnod allweddol 4 a’r Chweched Dosbarth er mwyn cefnogi eu cynnydd wedi’r ysgol. Yng nghyfnod allweddol 4 mae rhai disgyblion yn dilyn cyrsiau sy’n gysylltiedig â gwaith CWRICWLWM a, lle mae’n briodol, ymgymryd â lleoliadau mewn gwaith.

Mae’r Rhaglen Addysg Rhyw a Pherthnasau, o fewn ABCh, yn helpu dysgwyr i ddeall datblygiad emosiynol a chorfforol wrth aeddfedu (Blwyddyn 7) ac mae gwersi’n datblygu i drafod testunau megis perthnasau yn seiliedig ar barch a chariad (Blwyddyn 7 a Blwyddyn 8), rhywioldeb (Blwyddyn 8 a Blwyddyn 9), caniatâd a’r gyfraith (Blwyddyn 8 a Blwyddyn 9), sextio (Blwyddyn 9 a 10) cenhedlu ac atal cenhedlu (Blwyddyn 8 a Blwyddyn 9), perthnasau treisgar (Blwyddyn 10), peryglon gor-yfed (Blwyddyn 10 a Blwyddyn 11) ac afiechydon a drosglwyddir yn rhywiol (Blwyddyn 10 a Blwyddyn 11). Gall rieni eithrio eu plant o’r rhaglen Addysg Rhyw gan wneud cais ffurfiol ysgrifenedig i’r Pennaeth.

Chweched Dosbarth

 

 

My Page

DEWISLEN