T

 Dweud am Fwlio/Aflonyddu


Egwyddorion

Yr ydym yn cydnabod bod bwlio'n digwydd ond ni oddefir bwlio o unrhyw fath yn yr ysgol. Credwn fod gan bawb yr hawl i fwynhau bywyd ysgol mewn amgylchedd diogel a chyfeillgar. Cyfrifoldeb pawb yw edrych am arwyddion cynnar o ofid, dirywiad mewn gwaith, unigedd, yr awydd i fod gydag oedolion a phresenoldeb afreolaidd. Efallai fod yr ymddygiad hwn yn arwydd o broblemau eraill ond efallai mai dyma'r arwyddion cynnar o fwlio.

‘Rydym yn annog parch at eraill a'u heiddo ac rydym yn gweithio i sicrhau bod pawb yn cael eu gwerthfawrogi'n gyfartal a'u trin â pharch, waeth beth fo'u hagwedd, rhyw, tarddiad ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd neu statws cymdeithasol. Rydym yn annog diwylliant agored lle mae pawb yng nghymuned yr ysgol yn gyfrifol am roi gwybod am achosion o fwlio.

‘Rydym yn addo y bydd pob digwyddiad a gofnodir yn cael ei gymryd o ddifrif a bydd camau priodol yn cael eu cymryd gyda'r rhai sy'n gysylltiedig.

Diffiniad o fwlio:

Bwlio yw'r defnydd mynych o ymddygiad ymosodol gyda'r bwriad o frifo/anafu person arall.

Mae bwlio'n parhau dros gyfnod o amser ac nid digwyddiad untro.

Mae bwlio yn arwain at boen a gofid i'r dioddefwr:

Gall bwlio fod yn:

· Eiriol – galw enwau, gwatwar, lledaenu straeon, herian, llwgrwobrwyo

· Gorfforol – cicio, dyrnu, taro, gwthio, tynnu, neu unrhyw fygythiad neu drais arall e.e. gorelwa (cymryd arian oddi wrth bobl eraill)

· Camddefnyddio – Camddefnyddio/Trin rhwydweithiau cymdeithasol gyda'r bwriad o wahardd neu ynysu unigolion o'u ffrindiau neu berthnasoedd arferol. Lledaenu straeon cas neu gyhuddiadau maleisus.

· Emosiynol – bod yn anghyfeillgar, eithrio rhywun, poenydio pobl ar eu maint, eu golwg neu eu gallu 2

· Sylwadau neu weithredoedd hiliol, rhywiol neu homoffobig

· Elitaeth – gwneud sylwadau am gyfoeth, dillad, galluoedd ac anableddau

· Seiberfwlio – defnyddio ffonau symudol, cyfrifiaduron, y rhyngrwyd a thechnoleg fodern arall i anfon negeseuon, lluniau sy'n peri gofid.

· Yn gysylltiedig â thueddiadau rhywiol. Gwneud i bobl deimlo'n annigonol oherwydd eu rhyw, neu os ydynt yn drawsryweddol.

Nid bwlio yw:

· Pan fydd ffrindiau'n cael dadl neu'n cweryla

· Digwyddiad untro fel ymladdfa

· Damwain – gweithred o frifo/anafu sy'n cael ei achosi'n anfwriadol

ADRAN Y MYFYRWYR

Beth allwch chi ei wneud os ydych chi'n meddwl eich bod yn cael eich bwlio:

Dywedwch wrth athro/athrawes – ni fydd yn gwella os byddwch yn ei gadw i chi'ch hun.

Dywedwch wrth riant/ofalwr – efallai y byddant yn gallu helpu i'w ddatrys.

Llewni’r ffurflen isod.

E-bostiwch neu dywedwch wrth aelod o staff

· Rhaid i chi siarad allan – mae bwlis yn dibynnu ar ddistawrwydd. Efallai y byddant yn bygwth gwneud pethau'n waeth os byddwch yn dweud ond os ydych yn meddwl amdano – dim ond eu diogelu NHW mae’r cyfrinachedd, nid chi. Drwy ddweud a datgelu efallai eich bod yn helpu eraill hefyd!

· Peidiwch â gadael iddynt godi ofn arnoch – dangoswch iddynt nad oes arnoch ofn drwy ddweud wrthynt am stopio neu byddwch yn dweud amdanynt.

· Gofynnwch i'ch ffrindiau a'ch ffrindiau dosbarth eich cefnogi. Os bydd ffrindiau a ffrindiau dosbarth yn cefnogi ei gilydd yna mae bwlis yn colli eu pŵer.

· Cadwch gofnod o'r hyn sydd wedi digwydd a gofynnwch i'ch ffrindiau fod yn dystion.

· Edrychwch i fyw llygaid y bwli a dywedwch wrtho/wrthi am stopio

· Anwybyddwch y bwli – cerddwch i ffwrdd yn dawel ac yn hyderus. Peidiwch â gadael i'r bwli weld eich bod wedi cynhyrfu

· Osgowch drosglwyddo unrhyw eiddo neu arian

· Gwiriwch iaith eich corff: pen i fyny, ysgwyddau'n ôl, cerdded yn uchel, gwenu

· Peidiwch â gwneud gwrth-fygythiadau

· Peidiwch â dod â brodyr a chwiorydd neu eraill i'ch problem, yn enwedig os ydynt yn hŷn na chi, ni fydd hyn ond yn gwneud pethau'n waeth

· Cadwch gofnod o'r holl ddigwyddiadau gydag enwau, amseroedd, tystion

· Dylech osgoi cerdded o gwmpas ar eich pen eich hun – ewch mewn grŵp

· Newidiwch eich patrymau ymddygiad – dewiswch lwybrau neu ardaloedd gwahanol i eistedd

· Ymunwch â chlwb amser cinio neu weithgaredd allgyrsiol.

· Os bydd rhywun yn eich cynhyrfu,ceisiwch eu hanwybyddu – efallai y byddan nhw'n stopio os nad ydyn nhw'n cael adwaith.

ADRAN RHIENI/GOFALWYR

Beth allwch chi ei wneud:

Cadwch olwg am arwyddion ble y gallai eich plentyn fod yn cael ei fwlio – tynnu’n ôl, mynd i’w gragen/chragen yn anarferol o dawel, heb fod yn nhw eu hunain, ddim eisiau dod i'r ysgol  

· Siaradwch â'ch plentyn a gwrandewch ar yr hyn maen nhw'n ei ddweud – efallai bod yr arwyddion hyn yn arwydd o rywbeth arall

· Peidiwch â rhuthro i mewn a mynnu gweld y Pennaeth / y bwli / rhieni'r bwli. Cysylltwch â rheolwr dysgu eich plentyn i adrodd am y mater yn y lle cyntaf. – eglurwch eich ofnau a gofynnwch iddyn nhw gynnal ymchwiliad. Gall rhieni hefyd hysbysu'r heddlu mewn achosion eithafol megis: bygythiadau o drais, camddefnyddio ffonau symudol neu safleoedd rhyngrwyd, cam-drin hiliol neu homoffobig.

· Siaradwch â'ch plentyn am beth i'w wneud: cadwch gofnod o ddigwyddiadau, negeseuon testun, negeseuon e-bost

· Bod â disgwyliadau realistig o'r hyn y gall yr ysgol ei gyflawni o fewn lleoliad yr ysgol

· Monitro defnydd eich plentyn o'r cyfrifiadur a’r ffôn (yn enwedig y safleoedd rhwydweithio cymdeithasol)

 · Cyngor gan safleoedd rhyngrwyd fel www.parentlineplus.org.uk

· Gwneud apwyntiad i drafod y canfyddiadau a pha gamau sy'n cael eu cymryd

ADRAN STAFF

Beth i'w wneud os bydd plentyn yn rhoi gwybod am ddigwyddiad bwlio neu os ydych yn dyst i un:

· Adnabod - Cadwch olwg am arwyddion o fwlio

· Ymateb - Gwrando'n effeithiol, gwneud gwaith dilynol a sicrhau bod y dioddefwr yn ddiogel, gofyn am gyngor/gwybodaeth gefndir gan y tiwtor dosbarth/rheolwr dysgu

· Cofnodi - cofnodi'r digwyddiad, siarad â'r dioddefwr a’r bwlis ar wahân

· Gwaith dilynol - Gosod targedau tymor byr iddynt, annog y ddwy ochr i empatheiddio a datrys y gwrthdaro – cynnig cyfarfod adferol. Pennu dyddiad adolygu.

· Dweud– Dywedwch/adroddwch am y canfyddiadau a'r canlyniadau hyn wrth y Rheolwr Dysgu

Yn olaf, hoffem orffen drwy'ch atgoffa o'r ystod o gefnogaeth sydd ar gael ar gyfer dioddefwyr aflonyddu a cham-drin rhywiol. Mae gennym nifer o linellau cymorth sydd eisoes wedi'u sefydlu a ariennir gan Lywodraeth Cymru , yn benodol Childline Cymru, Byw Heb Ofn a gwasanaeth MEIC.

 

Childline Cymru
0800 1111

Byw Heb Ofn/Live Fear Free
0808 80 10 800

MEIC
0808 80 23 456

DEWISLEN