Darperir cyfleoedd i ddarpar rieni a myfyrwyr ymweld â’r ysgol ar nosweithiau agored neu yn ystod y dydd. Gellir gwneud apwyntiadau i gyfarfod â’r pennaeth yn bersonol ac i gael taith tywys o amgylch yr ysgol.
Mae’r ysgol yn dilyn polisi derbyn y Sir ac mae’n gwasanaethu dalgylch mawr gyda dros ugain o ysgolion cynradd yn ein bwydo. Mae’r ysgol yn hynod o boblogaidd felly mae rhieni yn dewis anfon eu plant yma o ysgolion cynradd Wrecsam yn ogystal ag ysgolion Sir Ddinbych. Mae gennym berthynas ardderchog gyda’r holl ysgolion bwydo ac mae trefniadau pontio yn dda.
Gwahoddir pob disgybl blwyddyn 6 i’r ysgol i gael gwersi blasu ac maent yn mynychu diwrnod pontio. Mae staff yn ymweld ag ysgolion cynradd i ddod i adnabod myfyrwyr newydd cyn iddynt gyrraedd. Gwahoddir rhieni i fynychu noson gynefino a hefyd bore goffi mwy anffurfiol i drafod y flwyddyn newydd.
Derbyniadau ysgolion Sir Ddinbych