Heddiw, ymwelodd dau ddisgybl Bl.13 sy'n astudio Cymraeg Lefel A, Gethin Roberts a Callum Fairbairn, ag Ysgol Bryn Collen i gynnal gweithdy Cymraeg efo bl.6. Thema'r gweithdy oedd 'Ein Cymuned Gymraeg' a chafodd y disgyblion hwyl a sbri gyda'r holl weithgareddau. Diolch hogiau am helpu i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf i ddathlu a mwynhau ein hiaith