Fel yr ydych yn ymwybodol mae Ysgol Dinas Brân yn ysgol ddwyieithog sy’n cynnig addysg trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Bydd disgyblion sy’n symud atom ni o ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg yn parhau eu haddysg yn Gymraeg yn Ninas Brân.
Mae oddeutu 110 o ddisgyblion yn Ninas Brân sy’n dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg (tua 22 ymhob Grŵp Blwyddyn o Flynyddoedd 7-11). Mae’r disgyblion mewn un grŵp gallu cymysg ac yn dysgu gyda’i gilydd ymhob gwers (ar wahân i Addysg Gorfforol a Cerdd). Mae bron pob gwers yng Nghyfnod Allweddol 3 yn cael eu haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ac eithrio Addysg Gorfforol a Cherddoriaeth.
Yng Nghyfnod Allweddol 4, mae’r cwricwlwm graidd; Saesneg, Cymraeg, Mathemateg, Gwyddoniaeth a’r Sialens Sgiliau (sy’n gyfystyr ag oddeutu 70% o’u cwrs) a rhai opsiynau – er enghraifft Hanes a Daearyddiaeth – hefyd yn cael eu cynnig yn Gymraeg. Mae opsiynau eraill ar gael trwy gyfrwng y Saesneg yn unig er y gall rhai o’r rhain gael eu haddysgu’n ddwyieithog.
Caiff disgyblion eu haddysgu mewn grwpiau gallu cymysg, ac yr ydym yn credu’n gryf bod yr ymdeimlad o gymuned yn y ffrwd ‘D’ yn hyrwyddo’r teimlad o hunaniaeth ac yn annog dysg a chynnydd disgyblion. Mae’r canlyniadau ar lefel TGAU yn dangos bod disgyblion sy’n dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn yr ysgol yn gwneud cynnydd tebyg iawn, os nad yn well, i’r rhai yng nghyfrwng y Saesneg (gweler y ffigyrau sydd wedi eu darparu yma).
Yn Ninas Brân yn credu yn gryf y dylai disgyblion sydd yn dewis gwneud eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg gael profi nifer o wahanol weithgareddau a chyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn fewnol ac yn allanol yn ystod eu gyrfa ysgol gyda ni.
Yn yr ysgol y ddau weithgaredd Cymraeg sydd fwyaf pwysig ar y calendr ydy ein Eisteddfod Ysgol a Chyngerdd Gŵyl Ddewi. Mae’r ddau weithgaredd arbennig yma yn uchel iawn ar agenda yr Adran Gymraeg. Mae’r Eisteddfod rhoi cyfle i holl ddisgyblion yr ysgol gystadlu mewn cystadlaethau gwaith cartref ac mewn amryw o gystadlaethau llwyfan. Er mwyn cael blas ar weithgareddau ein Eisteddfod ysgol gellir edrych ar wefan youtube o dan y teitl ‘Eisteddfod Ysgol Dinas Brân’.
Rydym ni’n hynod falch o’n cyngerdd Gŵyl Ddewi lle mae nifer o unigolion, grwpiau a chorau o Ysgol Dinas Brân a’n hysgolion cynradd yn perfformio.
Yn ogystal â’r gweithgareddau Cymraeg sydd yn cael eu cynnal yn yr ysgol rydym hefyd yn trefnu ymweliadau a chyrsiau drwy weithio gyda sefydliadau yn y gymuned.
Dyma rai enghreifftiau i chi:
Bob blwyddyn mae’r Adran Gymraeg yn ceisio annog disgyblion i gymryd rhan yng ngweithgareddau yr Urdd. Nod yr Urdd yw sicrhau cyfle, trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg, i holl ieuenctid Cymru (rhwng 8 a 25 oed) ddatblygu’n unigolion cyflawn; a’u galluogi i chwarae rhan adeiladol yn y gymdeithas gan feithrin sgiliau personol a chymdeithasol. Mae dau glwb yr Urdd ar gael yn ystod yr wythnos, felly mae rhywbeth at ddant pawb!
Mae’r clwb yn cael ei gynnal mewn cydweithrediad â Menter Iaith . Nod y Clwb yw cynnig cyfle i ddisgyblion gymdeithasu yn y Gymraeg. Trefnir gwahanol weithgareddau megis teithiau i 'Bounce Below' ym Mlaenau Ffestiniog a Chastell Dolwyddelan, Zorbio gyda 'Verve Sport' a nifer o weithgareddau yn ystod amser cinio. Bob Gwanwyn rydym ni’n dechrau ar y dasg o weithio gyda disgyblion i’w paratoi ar gyfer cystadlu gyda’r Urdd - boed hyn yn gystadlaethau llwyfan neu gystadlaethau gwaith cartref/celf a chrefft.
Am fanylion pellach am yr Adran Gymraeg/y Ffrwd Gymraeg, cysylltwch â Mr Gethin Williams (g.williams@dinasbran.co.uk) - Pennaeth Cynorthwyol neu Mr Ifor Phillips (i.phillips@dinasbran.co.uk), Pennaeth yr Adran Gymraeg—01978860669.