Ymweliad Ed Holden


Bu’r disgyblion ym Mlwyddyn 7 yn lwcus iawn i gael y cyfle i weithio ar brosiect gyda Ed Holden sef Mr Phormula yn ddiweddar. Prosiect ble mae ysgolion lleol yr ardal yn cyd-weithio i greu rap gwreiddiol yn Gymraeg a Saesneg. Pwysigrwydd y prosiect hwn yw annog dwyieithrwydd gan gyflwyno’r Gymraeg mewn ffordd newydd a chyffrous. Cafodd y disgyblion y cyfle i wrando ar Ed yn bît-bocsio a chael cyfle arni eu hunain. Yna bu’r disgyblion yn brysur yn cyfansoddi ac yn perfformio eu rap gwreiddiol. Bydd Ed Holden yn golygu’r gân ac yna bydd arddangosfa yn yr ysgol o’r holl gyfansoddiadau gan y gwahanol ysgolion. Fe wnawn rannu’r gân ar ein cyfryngau cymdeithasol ymhen yr wythnosau nesaf. Diolch yn fawr iawn i Ed – cafodd y disgyblion amser gwerth chweil!