Warant i Bobl Ifanc


Annwyl Rhiant / Gwarcheidwaid,

Rydyn ni’n cysylltu i roi gwybod i chi am y gefnogaeth sydd ar gael i bobl ifanc ledled Cymru o ganlyniad i Warant Llywodraeth Cymru i Bobl Ifanc a all helpu i wneud gwahaniaeth go iawn i’w dyfodol. Ym mis Tachwedd 2021, lansiodd Llywodraeth Cymru y Warant i Bobl Ifanc yn swyddogol - ymrwymiad y byddai pawb dan 25 oed yng Nghymru yn cael cynnig cefnogaeth i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant, i ddod o hyd i swydd neu i fod yn hunangyflogedig. Cafodd yr ymrwymiad hwn ei gynllunio mewn ymateb i’r pandemig i leihau effeithiau COVID a rhoi cymorth i bobl ifanc ddilyn eu nodau gyrfa a rhoi gyrfa bositif iddyn nhw. Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr eich bod chi a’r bobl ifanc yn eich cartref yn ymwybodol o’r gefnogaeth sydd ar gael iddyn nhw a sut mae cael mynediad ati. P’un ai a oes angen cyngor arnyn nhw ar barhau â’u hastudiaethau, cael swydd neu symud ymlaen i’r cwrs iawn y tymor nesaf/y flwyddyn nesaf, dod o hyd i brentisiaeth, cymorth i ysgrifennu CV, cychwyn eu busnes eu hunain neu ganfod pa opsiwn yw’r un gorau iddyn nhw, gall y Warant i Bobl Ifanc ddarparu’r help sydd ei angen i gymryd y cam nesaf. Mae gwybodaeth am yr holl feysydd hyn a mwy ar gael, am ddim, ar wefan Cymru’n Gweithio sef: cymrungweithio.llyw.cymru/sut-y-gallwn-ni-helpu. Bydd arbenigwyr ac ymgynghorwyr ar gael i gynnig cymorth am ddim ac mae modd cysylltu â’r tîm drwy sgyrsiau ar y we, Skype, e-bost a gwasanaethau testun ar cymrungweithio.llyw.cymru neu drwy ffonio 0800 028 4844. Yn Sir Ddinbych, gallwch hefyd gysylltu â’ch gwasanaeth Sir Ddinbych yn Gweithio, sy’n darparu cefnogaeth cyflogaeth a sgiliau trwy Cymunedau am Waith a Mwy. https://www.denbighshire.gov.uk/cy/swyddi-a-gweithwyr/sir-ddinbych-yngweithio/ffurflenni/cysylltu-a-ni-gweithio-sir-ddinbych.aspx