Trip Caerdydd


Aeth yr adran Addysg Gorfforol a’r Adran D&Th â grŵp o fyfyrwyr blwyddyn 12 i Gaerdydd. Ar y diwrnod cyntaf bu'r myfyrwyr yn ddigon ffodus i wylio tîm pêl-droed Cymru’n hyfforddi a chasglu llofnodion yn ogystal ag ymweliad â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd ar gyfer gweithgaredd ddylunio a chreu. Ar yr ail ddiwrnod cafwyd ymweliad â Phrifysgol De Cymru a chymryd rhan mewn profion cyflymder, profion pŵer a phrawf VO2 max. Gyda'r nos cawsant wahoddiad i wylio gêm Cymru yn erbyn Armenia yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Heb os, roedd y disgyblion yn glod i'r ysgol.

Show Toolbar
  • Show Caption
  • Hide Thumbmails
  • Show Categories
  • Play Slide Show
  • Display in Full Screen
  • Hide Toolbar