Gwobrau Ysgolion Rhyngwladol


Dydd Llun Rhagfyr 20fed, cafodd Mr Wallis wahoddiad gan y Cyngor Prydeinig i fynychu seremoni wobrwyo arbennig er mwyn cynrychioli Ysgol Dinas Brân yn y Senedd yn San Steffan, Llundain. Cyflwynwyd y seremoni, Gwobrau Ysgolion Rhyngwladol gan James Asser AS, i ddathlu cyflawniadau ysgolion ledled y DU wrth ddatblygu eu cysylltiadau a'u cwricwlwm rhyngwladol. Y wobr ISA yw'r wobr uchaf a gynigir gan y Cyngor Prydeinig sy’n cydnabod arfer addysgol eithriadol ac yn sgil hynny caiff ei dyfarnu i ysgolion am dair blynedd. Yng nghyd â Mr Wallis fe aeth Becky Gittens AS, i ddathlu llwyddiant a chyflawniadau staff a disgyblion Ysgol Dinas Brân yn y maes addysg ryngwladol yma. Roedd Mr A Wallis a Becky Gittens AS yn falch iawn i allu chwifio’r faner dros Gymru gan mai Ysgol Dinas Brân oedd yr unig ysgol yng Nghymru yn y gwobrau. Mae'r Cyngor Prydeinig bellach yn bwriadu gwneud astudiaeth achos o'n harfer blaenllaw yn y sector. Dywedodd Mr A Wallis "Roeddwn yn falch o fod yn bresennol yn y Senedd, wrth wraidd democratiaeth Prydain, gydag uwch gynrychiolwyr y Cyngor Prydeinig, llywodraeth Prydain, ochr yn ochr â'n AS Becky Gittens, er mwyn dathlu gwaith caled a llwyddiant ein hysgol. Mae'n gyflawniad gwych y dylai cymuned gyfan yr ysgol ddathlu wrth i ni weithredu arwyddair Llangollen, lle mae 'Cymru'n Croesawu'r Byd'. Da Iawn Ysgol Dinas Brân!'

Show Toolbar
  • Show Caption
  • Hide Thumbmails
  • Show Categories
  • Play Slide Show
  • Display in Full Screen
  • Hide Toolbar