Heddiw cawsom y fraint o groesawu Mr Mark Drakeford i Ysgol Dinas Brân ar gyfer trafodaeth ysbrydoledig am bwysigrwydd y Gymraeg. Cymerodd ein dysgwyr Blwyddyn 12 a 13 sy’n astudio Cymraeg Ail Iaith Lefel A, ynghyd â disgyblion brwdfrydig o Flwyddyn 10 ac 11, ran mewn sesiwn Cwestiwn ac Ateb ragorol, gan ofyn cwestiynau craff ac ymateb yn hyderus drwy gydol y digwyddiad. Diolch arbennig i Calum ym Mlwyddyn 13, a drefnodd yr ymweliad ac arwain y sesiwn gydag aeddfedrwydd a phroffesiynoldeb. Camp arbennig iawn! Diolch yn fawr i bawb a gyfrannodd at lwyddiant y digwyddiad. Roedd neges Mr Drakeford yn un syml ond grymus: “Defnyddiwch eich Cymraeg.” Rydyn ni’n hynod falch o’n disgyblion am godi i’r her ac am ddangos eu brwdfrydedd dros y Gymraeg. Roedd Mr Drakeford hefyd wedi cyflwyno'r wobr Efydd ‘Cymraeg Campus’ i’r ysgol yn dilyn llwyddiant y Criw Cymraeg, a helpodd yr ysgol i ennill y wobr yr wythnos hon. Roedd hyn yn ffordd wych o orffen wythnos arbennig yma yn Ysgol Dinas Brân—wythnos lawn o ddiwylliant Cymraeg, gweithgareddau ymgysylltu, a dathlu ein hiaith. Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at gryfhau a hyrwyddo’r Gymraeg yn ein hysgol. Yr Adran Gymraeg