Ed Holden fideo rap


Braf oedd cael croesawu Ed Holden sef Mr Phormula yn ôl i’r Ysgol i arddangos yr holl waith caled y bu’r disgyblion yn ei wneud yn creu cân/rap wreiddiol yn Gymraeg a Saesneg. Bu’n wych gallu croesawu Ysgol Bryncollen, Ysgol Carrog, Ysgol Caer Drewyn ac Ysgol Llanarmon i Ddinas Brân er mwyn iddynt hwythau gael y cyfle i weld y fideo miwsig gorffenedig. Cafodd disgyblion Blwyddyn 5 a 6, ynghyd a’r disgyblion o Flwyddyn 7 y cyfle i wrando ar Ed yn bîtbocsio, rhoi cynnig ar y gamp a chwarae gemau. Uchafbwynt y bore oedd cael gwylio’r fideo miwsig gorffenedig a gwrando ar y gân wreiddiol. Dangosodd y prosiect hwn y pwysigrwydd o ddefnyddio’r Gymraeg ynghyd â’r Saesneg mewn ffordd fodern gan ddangos bod dwyieithrwydd yn sgil hynod o bwysig i’r disgyblion ei gael.

Show Toolbar
  • Show Caption
  • Hide Thumbmails
  • Show Categories
  • Play Slide Show
  • Display in Full Screen
  • Hide Toolbar