Diwrnod y Llyfr


Bu Diwrnod y Llyfr yn llwyddiant ysgubol yma eto eleni yn Ysgol Dinas Brân.  Roedd y gwisgoedd yn anhygoel ac roedd nifer fawr wedi mynd i'r drafferth i wisgo fel cymeriadau a chefnogi'r diwrnod.  Roedd ymdrech y staff a’r myfyrwyr y tu hwnt i’n disgwyliadau. Diolch i chi i gyd. 

Mae Diwrnod y Llyfr yn ymwneud â hyrwyddo darllen.  Rydym i gyd yn ymwybodol o fudd darllen nid yn unig i raddau’r myfyriwr ond hefyd i'w hiechyd meddwl, felly roedd yn galonogol iawn gweld pawb yng Nghyfnod Allweddol 3 yn mwynhau trydydd diwrnod "Cydio mewn darllen” fel rhan o ddathliadau diwrnod y Llyfr. Cyfle i’r staff a'r myfyrwyr ddarllen am 15 munud yn ystod pob gwers drwy gydol y dydd.

Rhoddwyd Tocyn Llyfr i bob myfyriwr fel y gallent ei gyfnewid am lyfr, ac rwyf eisoes wedi rhannu bron i 200 yma yn y Llyfrgell. Mwynhaodd y myfyrwyr yr heriau a’r cwisiau yn ystod cyfnod egwyl ac amser cinio a bu’r stondin fferins yn brysur iawn. 

Codwyd cyfanswm o £290.34c tuag at lyfrau newydd.  Diolch i bawb am eu cefnogaeth, rydym yn werthfawrogol iawn.