Cystadleuaeth Ffilm


Mis diwethaf, cafodd detholiad o ddisgyblion Blwyddyn 9 gyfle i weithio gyda Rhys Bebb o 'Screen Alliance' Wales i greu ffilm 60 eiliad mewn diwrnod. Roedd angen cynllunio, ffilmio a golygu'r ffilm o dan y thema 'Y Llwybr'. Roedd hi'n dasg yn anodd ac nid oedd heb ei heriau, ond wedi dweud hynny roedd yn brofiad amhrisiadwy i bawb! Yn ddigon ffodus cafodd Ysgol Dinas Brân gynrychioli sir Ddinbych yn y gystadleuaeth a chystadlu yn erbyn ysgolion eraill yng Ngogledd Cymru. Cyflwynodd pob ysgol rhwng tair a phum ffilm i gyd, a'r beirniad oedd Stifyn Parri, ymgynghorydd yn BAFTA Cymru!

Ar y 18fed o Dachwedd, mynychodd Mr Sinclair a'r tri grŵp o YDB ddigwyddiad traddodi'r feirniadaeth a bu i un o'n ffilmiau ennill y brif wobr a £100 i adran y Cyfryngau yn Ysgol Dinas Brân! Dyma wneuthurwyr y ffilm: Natalie Hughes, Katie Jones, Kara Roberts, Maddy Wilson a Lucy Giles. Roedd eu sgiliau golygu wedi creu cyn argraff ar Stifyn Parri ond hefyd y ffordd yr amserwyd y golygfeydd gyda'r trac sain. Roedd eu ffilm yn gyflym ac yn llawn egni ... gan adael Stifyn Parri eisiau mwy ar y diwedd!

Mae Mr Sinclair yn edrych ymlaen at weld rhai o wneuthurwyr y ffilm yn astudio Astudiaethau'r Cyfryngau TGAU'r flwyddyn nesaf, ac yn gobeithio bod yr holl fyfyrwyr wedi dysgu gwersi a sgiliau gwerthfawr a ddaeth yn sgil y gystadleuaeth a'r gweithdy! Mae'n edrych ymlaen at eistedd i lawr gyda'r tîm llwyddiannus er mwyn gwario arian y wobr ar offer ffilmio y mae mawr ei angen yn yr ysgol. Da iawn i bawb a fu'n cymryd rhan a gwyliwch allan am Ŵyl Ffilm YDB yn nes ymlaen yn y flwyddyn academaidd!