Ar ddiwrnod ola’r tymor, cynhaliodd aelodau Cyngor Myfyrwyr Ysgol Dinas Brân Fforwm Cyngor Ysgol Cyngor Sir Dinbych yma yn y Llyfrgell. Cyfarfu myfyrwyr o bob ysgol uwchradd yn Sir Dinbych i drafod materion sy'n effeithio arnynt yn ogystal â rhannu syniadau ac arfer dda. Cadeiriwyd y cyfarfod gan aelodau Cyngor Myfyrwyr YDB ac fe gafwyd gwaith rhagorol ganddynt, heb os yr oeddynt yn glod llwyr iddynt eu hunain yn ogystal â'r ysgol. Rhoddodd pob ysgol ddiweddariad am y gweithgareddau yn eu hysgolion eu hunain gyda gwaith rhagorol yn digwydd ledled y Sir. Hoffem ddiolch hefyd i aelodau o wasanaethau Arlwyo Sir Dinbych a fynychodd i ateb cwestiynau gan y myfyrwyr. Roedd y myfyrwyr yn angerddol ac yn wybodus iawn ac wynebodd ein hymwelwyr gwestiynau anodd, ond cwrtais. Cafodd yr ymwelwyr daith o amgylch yr ysgol a chinio ysgafn hyfryd a ddarparwyd iddynt ym Mwyty’r Castell. Roedd pawb yn canmol popeth sydd gan YDB i'w gynnig. Cynhelir cyfarfod nesaf Fforwm CSDd yn Neuadd y Sir Rhuthun ym mis Gorffennaf a chynhelir ein cyfarfod mewnol nesaf o Gyngor Myfyrwyr ar Fai 12fed. Ein diolch hefyd i Sian Alwena Jones, Swyddog Arweiniol Ymgysylltu a Chynnydd (Llais y Dysgwr) am ei chefnogaeth barhaus a hwyluso'r adnodd gwerthfawr hwn. Diolch hefyd i Mr Hatch am ganiatáu i'r cyfarfod gael ei gynnal yma.