YSGOL AR GAU 6/1/26


Blwyddyn Newydd Dda a dymuniadau gorau i chi. Mae’r penderfyniad wedi’i wneud i gau’r ysgol yfory, dydd Mawrth, 6 Ionawr 2026. Mae yna eira sylwedol ar safle’r ysgol, ac yn ogystal, lle rydym wedi gwasgaru graean, mae hyn eisoes wedi troi’n rew. Gyda’r rhagolygon yn dangos tymereddau rhewllyd drwy’r nos, nid yw’r sefyllfa’n debygol o wella. Gan fod llawer o ddisgyblion ac aelodau o staff yn teithio pellteroedd hir, o ardaloedd gwledig, rwyf wedi gwneud y penderfyniad i gau heno er mwyn rhoi cymaint o rybudd i chi ag y gallaf ac i sicrhau iechyd a diogelwch ein disgyblion a’n staff. Byddwn yn gweithio ar y safle eto yfory i geisio sicrhau y gallwn agor ddydd Mercher. Sori am yr anghyfleustra, ond rwy’n siŵr y gallwch werthfawrogi’r sefyllfa anodd. Diolch i chi am eich cefnogaeth, a byddaf yn eich diweddaru pan fo'r angen.