Ymwelodd Mr Maybury â ward y Plant yn Ysbyty Maelor Wrecsam er mwyn cyflwyno PlayStation 5 iddynt gyda’r arian a godwyd yn ystod diwrnod elusennol set4success a gynhaliwyd yma yn YDB. Roedd y nyrsys yn hynod ddiolchgar am y PlayStation a nodwyd y byddai'n gwneud gwahaniaeth enfawr i lawer iawn o blant sy'n mynd trwy amser caled. Roedden nhw eisiau i mi ddiolch i bawb yn Ysgol Dinas Brân. Rydym hefyd wedi rhoi £822.40 i Ysbyty Plant Alder Hay. Da iawn i bawb am wneud hyn yn bosibl. Diolch o galon i chi gyd.