Ymweliad Rob Page


Wel, am brofiad gafodd ein timau pêl-droed ysgol heddiw. Treuliasom y bore gyda Rob Page, ac i ddechrau rhoddodd sesiwn hyfforddi i'n tîm blwyddyn 10,ac yna treuliodd amser gyda'r holl dimau o flwyddyn 7 i'r chweched dosbarth lle rhoddodd gyflwyniad iddynt ar ei brofiadau yn y byd pêl-droed a sut i ddelio â rhwystrau a meithrin gwydnwch i allu llwyddo. Siaradodd hefyd am fod yn Gymro a beth mae hynny'n ei olygu iddo. Cafodd ein myfyrwyr gyfle hefyd i ofyn ambell gwestiwn iddo. Heb os, profiad gwych i'r myfyrwyr. Diolch o galon i Mrs Gardner am drefnu'r cyfle hwn i'n myfyrwyr fel diolch iddynt am gynrychioli ein hysgol. Diolch yn fawr iawn i Rob Page, Steve Williams a phawb yn - CBDC/FAW.