Wel, am #Wythnos Werdd Fawr gyffrous yn Ysgol Dinas Brân! Bu i’r myfyrwyr gymryd rhan mewn sawl ffordd wahanol (mwy isod). Yn bwysig iawn, llwyddasom i groesawu tri gwleidydd lleol i ymweld a gwrando ar ein cri:
Llŷr Gruffydd AS (Plaid Cymru) Rhanbarth Gogledd Cymru a Chadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith
Ken Skates AS (Llafur) Etholaeth De Clwyd
Simon Baynes AS (Ceidwadwyr) Etholaeth De Clwyd
Roedd gwaith y myfyrwyr a'r ysgol yn seiliedig ar leihau eu hôl troed carbon gan annog eraill i weithredu ar y newid yn yr hinsawdd wedi creu argraff ar y gwleidyddion. Roeddent i gyd yn gytûn i’n helpu gyda'n hymgyrch i gael gwared ar yr holl blastig untro nad ydynt yn hanfodol o bob ysgol.
Cynhaliwyd y gweithgareddau canlynol:
Cyfnodau Cofrestru: Cafodd y disgyblion wybod am ymgyrch Hinsawdd Cymru, y daith i ‘COP’, yn ogystal ag am COP26.
Gwasanaethau: Cyflwynodd y Swyddog Ynni o Gyngor Sir Ddinbych wybodaeth i ddisgyblion CA3 am baneli solar newydd yr ysgol a sut mae'r prosiect hwn yn ein helpu yn ein nod o leihau ein hôl troed carbon yn sylweddol.
Celf: Bu'r disgyblion yn cymryd rhan mewn cynllun cerdyn post i'w anfon i'n cystadleuaeth arweinwyr.
Busnes: Dysgodd y disgyblion ym mlynyddoedd 10-13 am fusnes cynaliadwy ac 'economeg toesen'.
Dylunio a Thechnoleg: Bu’r disgyblion yn creu blychau adar a fydd yn cael eu gosod ar dir yr ysgol.
Saesneg: Cafodd y disgyblion ysbrydoliaeth o araith ‘How Dare You’ gan Greta Thunberg, gan ysgrifennu areithiau 26 eiliad yn dweud wrth ein harweinwyr y camau y maent am eu gweld er mwyn gwella’r hinsawdd. Yn ogystal, ysgrifennwyd rhai cerddi anhygoel!
Daearyddiaeth: Cynhaliodd y disgyblion arolwg fflora a ffawna o dir yr ysgol, a chynllunio posteri.
TGCh: Creodd y disgyblion logo ar gyfer ein hwythnos werdd nesaf.
Addysg Gorfforol: Anogwyd cymaint â phosibl i feicio/cerdded i'r ysgol!
Gwyddoniaeth: Ar hyn o bryd mae disgyblion CA4 yn astudio technoleg werdd a systemau ynni gwyrdd, a'r wythnos hon cynhaliwyd astudiaeth i'r allbwn a gynhyrchir gan ein paneli solar. Bu disgyblion CA3 yn ymchwilio i ynni adnewyddadwy ynghyd â chymryd rhan yn y gystadleuaeth cynllunio/dylunio poster/taflen er mwyn addysgu eu cyfoedion ar 'yr hyn a ellir ei wneud'.
Bwyty’r Castell: Creodd y tîm arddangosfa ar ba mor bell y mae'r bwyd wedi teithio mewn perthynas â lleihau ôl troed carbon yr ysgol.
Mynychodd myfyrwyr Blwyddyn 13 gynhadledd 'Energy21' ar Gae Ras Caer. Digwyddiad gan y Diwydiant Ynni yn trafod sut mae'r sector yn bwriadu cyrraedd targedau ‘Net Zero’.
Bu myfyrwyr yr Eco-gyngor yn brysur iawn yn cyflwyno rhai o'r gweithgareddau uchod ac roeddent yn allweddol wrth hebrwng a chyflwyno i'n gwesteion!
Cafodd tri o fyfyrwyr Blwyddyn 13 gyfweliad radio am ddigwyddiadau’r wythnos, ein prosiect solar a’r ‘COP26’ ar gyfer ‘Heart’ a ‘Capital Radio’.