Ty Gobaith


Yr wythnos hon, croesawyd Vicky Bradbeer o 'Tŷ Gobaith' yn ôl i’r ysgol i ddathlu a chydnabod cyflawniadau Blwyddyn 10 am eu gwaith caled a’u paratoadau ar gyfer cwblhau’r her Menter a Chyflogadwyedd. Fel rhan o’r her, creodd y disgyblion gynnyrch i’w gwerthu yn y Ffair Nadolig, a gyflwynwyd ganddynt yn y “Dragon's Den”, ac yna codi arian i 'Tŷ Gobaith' trwy werthu eu cynnyrch. Cyflwynodd Vicky wobrau, a chafodd Blwyddyn 10 hefyd y fraint o gyflwyno siec iddi am y £1122 a godwyd yn y ffair. Bydd y Grŵp 'Hotel Savvy' yn cyfateb y swm hwn, gan ddod â chyfanswm yr arian a godwyd gan Flwyddyn 10 i fwy na £2000.