Ar Ddydd Iau 12fed o Hydref cafodd blwyddyn 7 berfformiad rhyngweithiol gan Llion Williams o gwmni theatr Mewn Cymeriad. Roedd y sioe, Taith yr Iaith yn mynd a'r disgyblion drwy daith yr iaith Gymraeg ar hyd yr oesoedd. Ar Ddydd Gwener 13eg o Hydref daeth Blwyddyn 6 o Ysgol y Gwernant, Ysgol Cynddelw ac Ysgol Bro Dyfrdwy i ymuno â 7D ar gyfer fersiwn Gymraeg y sioe. Cafodd pawb llawer o hwyl!