Am daith! Mae’r disgyblion wedi bod yn bleser ar hyd y daith sgïo o’r eiliad gyntaf ym Mhafiliwn Llangollen - i gopa mynyddoedd Aprica, yr Eidal ac yn ôl. Rydyn ni fel staff yn hynod falch o’u brwdfrydedd, eu parch a’u dyfalbarhad. Diolch hefyd i’r staff am gefnogi’r disgyblion drwy’r wythnos - tîm arbennig - diolch Mr Roberts, Mrs Martin, Mrs Edwards a Miss Jones.