Dydd Iau, daeth STEM Cymru i’r ysgol i gyflwyno sesiynau STEM i 35 o ddisgyblion Blwyddyn 8 a 35 o ddisgyblion Blwyddyn 9. Gweithiodd y disgyblion mewn timau i ddylunio car a gafodd ei rasio. Buont hefyd yn gweithio ar godio ac yn rhaglennu pêl i wneud tasgau gwahanol a newid lliw. Mwynhaodd pawb y diwrnod yn fawr iawn.