Yr wythnos hon, croesawyd y ‘Royal Signals’ i'r ysgol. Siaradodd y tîm am yr hyn y mae'r gatrawd yn ei wneud a sut maen nhw'n defnyddio sgiliau STEM yn eu gwaith. Yna cafodd myfyrwyr Blwyddyn 9 gyfle i roi eu sgiliau technegol ar brawf, sef derbyn cais i atal ymosodiad seiber ar y DU. Roedd yn rhaid iddyn nhw weithio drwy nifer o gliwiau i nodi pryd, ble a sut y byddai'r ymosodiad yn digwydd, hyn i gyd o fewn 90 munud!