Cwblhaodd Sam ras 10k Llangollen fore Sul, gan orffen yn 5ed allan o 192 o gystadleuwyr. Roedd hwn yn gamp anhygoel, yn enwedig gan mai dim ond 17 oed yw Sam – ac ef oedd enillydd ei gategori oedran.
Cwblhaodd y ras mewn amser rhagorol o 40 munud.
Y penwythnos yma, bydd Sam yn cymryd rhan yn Hanner Marathon Caer er budd ysbyty plant Alder Hey. Mae’n chwilio am roddion i gefnogi’r achos arbennig yma – byddai unrhyw gyfraniad, bach neu fawr, yn cael ei werthfawrogi'n fawr.
Gallwch ei gefnogi drwy fynd i’w dudalen:
Da iawn Sam!
https://gofund.me/e3353c50