Ar Ddydd Llun 27ain o Dachwedd, aeth 46 o ddisgyblion ar ymweliad i Ffair Aeaf y Sioe Frenhinol yn Llanfair-ym-Muallt. Cawson nhw gyfle i weld amrywiaeth o anifeiliaid fferm, dysgu am gynnyrch Cymraeg ac am bwysigrwydd ffermio ar ddiwydiant Cymru, yn ogystal â gwylio rhai o'r cystadlaethau. Cafodd pawb diwrnod gwerth chweil.