Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru


Heddiw cawsom y fraint o groesawu Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru, atom i’r ysgol. Cyflwynodd y Comisiynydd wasanaeth arbennig i ddisgyblion Blwyddyn 7 ar Hawliau Plant y Cenhedloedd Unedig. Yn dilyn y cyflwyniad, bu aelodau’r Cyngor Myfyrwyr yn cymryd rhan mewn gweithdy rhyngweithiol gyda Rocio, gan drafod y 42 o hawliau a’r materion sy’n cael yr effaith fwyaf ar ein myfyrwyr o fewn yr ysgol. Mwynhaodd y myfyrwyr y cyflwyniad a’r gweithdy yn fawr, ac roeddynt yn gwerthfawrogi’r cyfle i gydweithio â Rocio.

Show Toolbar
  • Show Caption
  • Hide Thumbmails
  • Show Categories
  • Play Slide Show
  • Display in Full Screen
  • Hide Toolbar