Mae Blwyddyn 7 , 8 a 9 wedi bod yn arbennig heddiw ma' yn cymryd rhan yn y ras noddedig ar gyfer Ymchwil Canser ac Ambiwlans Awyr Cymru. Yr ydym mor falch o'r ffordd y maent wedi ymddwyn - maent wedi bod yn wych. Hyd yn hyn, 'rydym wedi codi swm anhygoel o £1467 a fydd yn cael ei rannu rhwng y ddwy elusen. Byddwn yn parhau i gasglu'r arian tan Ddydd Mercher, Mehefin 30ain. 'Rydym wedi cael ein llethu gan eich haelioni a'ch cefnogaeth, diolch yn fawr, y Tîm Addysg Gorfforol