Quadcopter


Dydd Mercher Tachwedd 9fed, cymerodd rhai o ddisgyblion Blwyddyn 9 ran mewn cystadleuaeth 'Quadcopter', a gynhaliwyd gan Raytheon Technologies ym Mhrifysgol Glyndŵr. Heb os, roedd y tîm wedi gwneud yn hynod o dda i gyrraedd y cam yma o'r gystadleuaeth ac yn un o bum tîm a oedd yn weddill o bob rhan o Ogledd Cymru. Yn anffodus, ni chyrhaeddodd y criw'r rownd derfynol genedlaethol, ond yn sicr maen nhw wedi dysgu llawer, ac yn glod i'r ysgol. Heb amheuaeth, byddant yn parhau i fod yn llysgenhadon ar gyfer y gystadleuaeth mewn blynyddoedd i ddod. Da iawn chi!