Dydd Mawrth 25ain o Ionawr daeth Swyn o Urdd Sir Ddinbych draw i’r ysgol i ddathlu Canmlwyddiant yr Urdd.
Cafodd disgyblion yn 7D y cyfle i fynychu parti bychan i ddathlu, gan gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau.
Diolch yn fawr iawn i’r disgyblion hefyd am fod yn rhan o’r llwyddiant o dorri Record Byd gyda’r mwyaf o bobl yn canu’r gân Hei Mr Urdd! Braf oedd gweld pawb yn cymryd rhan.