Cynhaliodd Dinas Brân gystadleuaeth bêl-droed ar gyfer yr ysgolion cynradd yr wythnos diwethaf. Roedd Ysgol Caer Drewyn, Ysgol Carrog, Ysgol Y Waun, Ysgol Garth, Ysgol Pentre, Ysgol Bryn Collen, Ysgol Cynddelw ac Ysgol Gwernant i gyd yn bresennol gyda chyfanswm o 16 tîm yn cystadlu i gyd o'r 8 ysgol. Roedd hi'n gystadleuaeth wych a'r awyrgylch yn anhygoel. Bu'r rownd derfynol rhwng Ysgol Pentre ac Ysgol Bryn Collen gydag Ysgol Pentre yn ennill o 3-0. Diolch yn fawr iawn i'r holl ysgolion a fynychodd.