Cynhaliodd yr Adran Addysg Gorfforol eu cystadleuaeth bêl-droed cynradd flynyddol ddoe, gyda 23 o dimau o 7 ysgol leol yn cymryd rhan. Bu rhai o'n disgyblion Blwyddyn 10 yn cymryd rôl allweddol wrth ddyfarnu'r gemau a chofnodi’r canlyniadau – ac roeddynt yn wych! Cyrhaeddodd Ysgol Bryn Collen a Garth y rownd derfynol, gyda Bryn Collen yn cipio’r fuddugoliaeth gyda sgôr o 4-0. Diwrnod llwyddiannus dros ben ysgubol, gyda dros 120 o ddisgyblion yn cymryd rhan.