Fel rhan o'n rhaglen CWRE, cafodd Peirianwyr posib Blwyddyn 9 ymweliad gan filwyr rheng flaen y fyddin. Dysgodd y myfyrwyr am y rôl hanfodol y mae'r Fyddin yn ei chwarae yn arbennig yn y byd sydd ohoni, a'r gyrfaoedd posibl y gallent eu dilyn unwaith y byddant wedi gorffen yn Ysgol Dinas Brân. Yna, cafodd y myfyrwyr eu gosod mewn grwpiau er mwyn cwblhau tasg ymarferol a oedd yn sicrhau eu bod yn gweithio'n dda fel tîm a'u bod yn datrys y broblem a gyflwynwyd iddynt. Cafodd y myfyrwyr gipolwg ar sut mae peirianwyr yn gweithio o fewn y Fyddin.