Sgwrs am yr Amgylchedd a’r Gymraeg: Llyr Gruffydd AS yn Ymweld â 9D
Roedd yn bleser croesawu Llyr Gruffydd AS i siarad â 9D am ei waith yn y Senedd. Bu’r disgyblion yn cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb wych am yr amgylchedd a’r Gymraeg, gan ofyn cwestiynau craff ac ystyrlon drwy gydol yr ymweliad. Roedd yn gyfle bendigedig i ddysgu mwy am faterion lleol a chenedlaethol, yn ogystal â rôl Aelod o’r Senedd wrth gynrychioli cymunedau Cymru.
Diolch yn fawr iawn i Llyr am roi o’i amser i siarad gyda’n dysgwyr, ac i ddisgyblion 9D am eu brwdfrydedd, eu hymddygiad gwych a’u hymrwymiad yn ystod y sesiwn.