Jambori Yr Urdd


Bu disgyblion ym Mlwyddyn 7 yn cymryd rhan ddoe yn Jambori Cwpan y Byd yr Urdd. Fe wnaeth dros 230,000 o ddisgyblion ar draws Cymru gymryd rhan er mwyn cefnogi’r tîm pêl-droed. Roedd hyn yn gyfle i’r disgyblion cael cyd-ganu gyda disgyblion eraill ar draws Cymru a cawsom glywed negeseuon arbennig gan Aaron Ramsey a Rob Page. Uchafbwynt y Jambori oedd cael canu Yma o Hyd gyda Dafydd Iwan! Gwych oedd gweld brwdfrydedd ac angerdd y disgyblion - Da iawn Blwyddyn 7!