Treuliodd Blwyddyn 7 fore yn gwneud gweithgareddau hwyliog ddydd Llun. Trefnwyd y digwyddiad gan ein myfyrwyr chwaraeon BTEC B13 fel rhan o'u cwrs. Cafodd y disgyblion brofi 6 gweithgaredd gwahanol. Yr uchafbwynt oedd y pêl-droed Zorb yn ogystal â'r 'dodge ball' a'r bwrdd dartiau gwynt. Cawsant hefyd chwarae tenis bwrdd, rygbi a thenis. Taflodd pob disgybl ei hun i mewn i'r gweithgareddau a bu'r ymddygiad yn eithriadol o dda. Diolch i'n myfyrwyr Bl13 am drefnu'r digwyddiad