Fe aeth 21 o ddisgyblion o flynyddoedd 7-9 ar daith preswyl i Glan-llyn gyda’r Urdd. Taith wobrwyol oedd hwn am fynychu Clwb Cymraeg yn rheolaidd yn yr Ysgol. Cafodd y disgyblion ddau ddiwrnod hynod o brysur yn cwblhau gweithgareddau amrywiol o ganŵio, i saethyddiaeth a dringo ar y rhaffau uchel. Braf oedd clywed yr hanesion am yr amser gwych a gafodd y disgyblion. Diolch i Swyn o’r Urdd am drefnu! Da iawn pawb am gymryd rhan yn yr holl weithgareddau!