Ffion Roberts - Blwyddyn 9


Bydd Ffion Roberts, sy’n 14 oed, yn cystadlu dros Gymru ym Mhencampwriaethau Gemau Ceffylau Ewrop dan 15 oed yn Ffrainc. Cynhelir y digwyddiad ym mis Awst a bydd tîm Cymru yn ymuno â chenhedloedd eraill Ewrop i gystadlu yn y Parc Marchogaeth Olympaidd. Dywedodd Ffion, sy'n fyfyriwr yma yn Ysgol Dinas Brân: "Rwyf wrth fy modd fy mod wedi cael fy newis i gynrychioli fy ngwlad ym Mhencampwriaethau Ewrop a gynhelir ym Mharc Equestre yn Ffrainc ym mis Awst - cartref y Gemau Olympaidd 2024. "Mae fy merlen Jem yn seren – mae hi’n 13.2hh yn llwyd ac yn 19 oed, a dwi’n meddwl y byd ohoni. Mae Jem wedi dysgu cymaint i mi ac mae hi’n arbennig iawn i mi. "Mae ganddi bersonoliaeth wych ac mae hi’n caru Polos a Kit-Kats!! Mae hon yn flwyddyn arbennig ychwanegol i mi gan fy mod hefyd wedi cael fy newis i gynrychioli Cymru yn Sioe Geffylau Frenhinol Windsor ym mis Mai. "Rydw i wedi bod yn cystadlu ers pan oeddwn i'n naw oed ac rwy'n falch o fod yn rhan o Glwb Merlod y Berwyn a Dyfrdwy, ac yno rwyf wedi cwrdd â rhai o fy ffrindiau gorau sy'n rhannu’r un cariad tuag at geffylau. "Rydw i wir yn edrych ymlaen at gynrychioli fy ngwlad a marchogaeth dramor am y tro cyntaf gyda Jem. Mae fy mreuddwyd wedi dod yn wir. Allai ddim aros i rannu'r profiad gyda fy ffrindiau yn y tîm a chael llawer iawn o hwyl. "