Roeddem yn falch iawn o groesawu Erin Gibson, Rheolwr Gweithrediadau, Wythnos Lleoliad Annibynnol. Siaradodd Erin â’r myfyrwyr TGAU Cerdd am y cyfleoedd amrywiol a niferus yn y diwydiant cerddoriaeth o fod ar y llwyfan i'r tu ôl i'r llenni yn ogystal â rheoli. Gwrandawodd y myfyrwyr yn astud iawn ar Erin wrth iddi roi cyngor ac adrodd ei straeon am weithio gyda gwahanol artistiaid. Ar y diwedd roedd gan y myfyrwyr gwestiynau niferus i Erin. Roedd ganddi amser i bawb ac fe allai fod yn gyswllt defnyddiol iawn i rai yn y dyfodol!