Disgyblion yn dathlu statws platinwm


Mae disgyblion Ysgol Dinas Brân wedi profi eu cymwysterau gwyrdd ar ôl derbyn y wobr eco uchaf bosibl.

Yn ddiweddar enillodd Ysgol Dinas Brân wobr fawreddog sef y Faner Platinwm ar ôl ennill tair gwobr y Faner Werdd yn flaenorol a hynny diolch i'r rhaglen addysg amgylcheddol, Eco-Sgolion.

Rhaglen ryngwladol yw Eco-Sgolion sy'n cael ei rhedeg yng Nghymru gan elusen amgylcheddol, Cadwch Gymru'n Daclus ac a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r rhaglen Eco-Sgolion yn ysbrydoli ac yn grymuso disgyblion i fod yn arweinwyr newid yn eu cymuned, gan eu helpu i ddysgu am fyw'n gynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang gan roi'r wybodaeth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i wneud newidiadau a fydd o fudd i'w hysgol, eu hamgylchedd lleol a'u cymuned ehangach, megis lleihau gwastraff, defnyddio ynni, trafnidiaeth, bioamrywiaeth, byw'n iach a materion sbwriel.

Fel rhan o'u hasesiad Platinwm Eco-Sgolion, cynhaliodd Ysgol Dinas Brân Wythnos Werdd Fawr gydag amrywiaeth o weithgareddau yn seiliedig ar yr amgylchedd a chynaliadwyedd. Yn y dosbarthiadau Saesneg, creodd y myfyrwyr areithiau yn dechrau gyda "How dare you!" yn gysylltiedig â gwaith Greta Thunberg. Yn y gwersi Gwyddoniaeth astudiodd y myfyrwyr dechnoleg werdd a systemau ynni gwyrdd gan gynnwys astudiaeth o'r allbwn a gynhyrchwyd gan ein paneli solar (roeddem oddi ar y grid am rai dyddiau). Tra yn y gwersi Daearyddiaeth, cynhaliodd y

myfyrwyr astudiaethau o'n fflora a'n ffawna lleol. Adeiladwyd gwestai chwilod a bu i’r adran dechnoleg adeiladu blychau adar i annog rhai rhywogaethau i nythu’r flwyddyn nesaf. Yn ogystal, yn y gwersi Daearyddiaeth a Chelf, ymrwymodd y myfyrwyr i gystadleuaeth cerdyn post a chreu poster er mwyn annog arferion arbed ynni gwell. Cynhyrchwyd y posteri mewn gwahanol ieithoedd i adlewyrchu mai mater byd-eang yw newid yn yr hinsawdd. Cymerodd fwyty'r ysgol ran yn y gweithgareddau hefyd drwy edrych ar ba mor bell yr oedd y bwyd wedi teithio er mwyn ei gysylltu â lleihau ôl troed carbon yr ysgol. Pwyllgor Eco'r myfyrwyr oedd yn gyfrifol am drefnu a chyflwyno'r wythnos hon. Cyfarfu'r myfyrwyr hefyd â'n cynrychiolwyr gwleidyddol sef Simon Baines AS, Ken Skates AS ac AS Gogledd Cymru Llŷr Gruffudd i godi ymwybyddiaeth o lais y myfyrwyr yn y cyfnod cyn cynhadledd COP 26. Yn ogystal mae'r Pwyllgor Eco hefyd wedi bod yn cynnal rhaglenni Eco eraill ac mae ganddynt gynlluniau cyffrous iawn ar y gweill ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod!

Dywedodd Andrew Wallis, :

“Hoffwn ddiolch i'r holl staff a myfyrwyr sy’n gysylltiedig â’r rhaglen Eco-Sgolion, am yr Wythnos Werdd Fawr, ac yn arbennig am y gwaith y maent wedi'i wneud sydd wedi ein galluogi i ennill y wobr hon. Yn yr un modd, hoffwn ddiolch i'r Pennaeth Mark Hatch a'n Rheolwr Busnes Jamie Roberts, am y buddsoddiad y maent wedi'i wneud er mwyn gwneud yr ysgol yn fwy cynaliadwy a lleihau ein hôl troed carbon, drwy brosiect gosod y paneli solar. "

Meddai Catrin Hughes, Swyddog Addysg Cadwch Gymru'n Daclus:

"Mae'r Faner Platinwm yn gyflawniad aruthrol sy’n tynnu sylw at frwdfrydedd ac ymrwymiad Ysgol Dinas Brân tuag at ddatblygiad cynaliadwyedd. Mae ymroddiad yr Eco-Bwyllgor dros nifer o flynyddoedd bellach wedi bod yn ysbrydoledig. Hoffwn longyfarch a diolch i'r holl ddisgyblion a'r staff sy'n gysylltiedig am eu gwaith caled!"

Am ragor o wybodaeth am y rhaglen Eco-Sgolion, ewch i www.keepwalestidy.org/eco-schools

Mr Hatch yn esbonio'r prosiect paneli solar i'n cynrychiolwyr gwleidyddol ac i Benaethiaid ysgolion cynradd y clwstwr.

Disgyblion yn cwblhau arolwg Fflora a Ffawna fel rhan o’r prosiect Daearyddiaeth yn ystod yr Wythnos Werdd Fawr .