Cymerodd ein myfyrwyr Lefel A ran mewn sesiwn 'Deialog Ddigidol' drwy'r ‘Politics Project’. Cyn y digwyddiad, bu'r myfyrwyr yn ymchwilio'n fanwl i gefndiroedd y cynrychiolwyr, yn llunio cwestiynau craff ac yn paratoi'r cyflwyniad. Cafodd pob ysgol a choleg y cyfle i ofyn tri chwestiwn yn uniongyrchol i'r cynrychiolwyr. Y cyn-aelodau o Gyngres yr Unol Daleithiau a gymerodd ran oedd: https://en.wikipedia.org/wiki/Val_Demings https://en.wikipedia.org/wiki/Garret_Graves Cynrychiolodd myfyrwyr Ysgol Dinas Brân yr ysgol yn arbennig o dda, gan ddangos ymchwil trylwyr yn ogystal â gofyn cwestiynau treiddgar o safon uchel. Roedd eu hymgysylltiad a'u proffesiynoldeb yn glod i'r ysgol. Hoffem ddiolch yn fawr i Ian Pope a'r ‘Politics Project’ am drefnu'r cyfle gwerthfawr hwn, ac i'r cyn-aelodau o'r Gyngres am roi o'u hamser i rannu eu profiadau a'u safbwyntiau, yn enwedig o ystyried y gwahaniaeth amser.