Datganiad newyddion gan Gyngor Sir Ddinbych


Diweddariad ar ddychwelyd i addysg yn ysgolion Sir Ddinbych

Atgoffir disgyblion a staff i gymryd prawf llif unffordd rheolaidd i helpu gydag atal lledaeniad Covid-19.

Gyda lledaeniad amrywiolyn Omicron, gofynnir i ddisgyblion ysgolion uwchradd a staff ysgolion i gyd ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru a chymryd profion llif unffordd ar ddyddiau Llun, Mercher a Gwener, cyn mynd i’r ysgol os nad ydynt yn arddangos symptomau.

Ni ddylai’r sawl sy’n arddangos symptomau fynd i’r ysgol a threfnu prawf PCR.

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi bod yn gweithio’n agos gydag ysgolion yn y cyfnod cyn ailddechrau addysg wyneb yn wyneb, ddydd Llun, 10 Ionawr.

Meddai’r Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd: “Gydag amrywiolyn Omicron a’r niferoedd cynyddol o achosion ledled y DU, rydym yn parhau i gydweithio’n agos gydag ysgolion i wneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu disgyblion a staff ysgolion.

“Mae’n bwysig bod disgyblion a staff ysgolion yn cymryd profion llif unffordd rheolaidd pan nad oes ganddynt symptomau, i helpu i atal lledaeniad y feirws. Gofynnir i unrhyw un sy’n arddangos symptomau Covid-19 i gymryd prawf PCR ac aros adref nes eu bod yn cael canlyniad negatif, neu’n cwblhau’r cyfnod hunanynysu.

“Serch hynny, mae cyfraddau achosion cenedlaethol yn debygol o effeithio ar lefelau staffio a’r gallu i’n hysgolion gynnal darpariaeth wyneb yn wyneb dros yr wythnosau nesaf. 

“Mae hyn yn golygu efallai bydd rhaid gwneud penderfyniadau ar gau dosbarthiadau neu grwpiau blwyddyn oherwydd nifer yr athrawon yn hunanynysu.

“Hoffwn ddiolch unwaith eto i staff ein hysgolion am eu hymrwymiad parhaus a’u gwaith caled, yn ogystal â’r rhieni a’r disgyblion am eu cefnogaeth wrth helpu i reoli’r feirws.

Er gwaethaf yr anawsterau wrth barhau gydag addysg yn ystod y pandemig, mae pawb wedi gwneud eu gorau glas i sicrhau bod ein plant yn cael yr addysg orau bosib.”

Gofynnir i staff ysgolion wisgo gorchudd wyneb mewn ardaloedd dan do, lle nad oes modd cynnal pellter cymdeithasol, yn ogystal â gofyn i ddysgwyr uwchradd wisgo gorchudd wyneb yn yr ystafelloedd dosbarth, gyda staff a disgyblion yn cael eu hannog i ymarfer hylendid da, sy’n cynnwys golchi a diheintio dwylo’n rheolaidd.

Gofynnir hefyd i rieni a gofalwyr fod yn ymwybodol oherwydd y nifer uchel o achosion Covid-19 y gallai fod rhywfaint o darfu, o bosibl ar fyr rybudd, i gludiant ysgol.

Bydd trefniadau amgen yn cael eu rhoi ar waith lle bo hynny'n bosibl a rhoddir gwybod i'r rhai yr effeithir arnynt, ond gofynnir i rieni a gofalwyr drafod opsiynau a chynlluniau wrth gefn gyda'u plentyn neu blant pe bai bysiau ysgol neu dacsis yn methu cyrraedd. Diolchwn i rieni a gofalwyr am eu dealltwriaeth ar hyn o bryd.