Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth


Mynychodd dau o’n myfyrwyr sef Oscar a Cai, y Cae Ras fel gwesteion i Glwb Pêl-droed Wrecsam Dydd Sadwrn. Mae'r bechgyn ar hyn o bryd yn codi arian ar gyfer "Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth" fel rhan o'u Her Sgiliau. Byddant yn cynnal raffl yn YDB ac mae’r gwobrau’n cael eu rhoi gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru, gyda’r gobaith o godi swm sylweddol tuag at yr elusen. Aeth rhai o aelodau staff gyda'r bechgyn a buont yn dyst i fuddugoliaeth Wrecsam o 4-1. Diolch i CPD Wrecsam am wahodd y grŵp ar eu diwrnod elusennol arbennig “Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth".