Bydd ysgolion yn Sir Ddinbych yn dod â dysgu wyneb yn wyneb i ben ddydd Gwener oherwydd achosion cynyddol o Covid-19 yn genedlaethol.
Mae Cyngor Sir Dinbych, yn dilyn trafodaethau â phenaethiaid, yn hysbysu rhieni y bydd dysgu wyneb yn wyneb yn ysgolion y sir yn gorffen ar ddiwedd y diwrnod ysgol ddydd Gwener, Rhagfyr 17.
Mae'r penderfyniad wedi'i wneud heddiw i roi cymaint o rybudd â phosib i rieni.
Bydd dysgu o bell yn parhau mewn ysgolion tan ddiwedd y dydd ddydd Mawrth, Rhagfyr 21, sef diwrnod olaf y tymor.
Gwnaed y penderfyniad i amddiffyn disgyblion a staff ar ôl i Lywodraeth y DU symud i Lefel Rhybudd 4, sy'n nodi bod y trosglwyddiad yn uchel ac mae pwysau uniongyrchol Covid-19 ar wasanaethau gofal iechyd yn eang.
Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol y Cyngor dros Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â'r Cyhoedd: “Rydyn ni wedi bod yn gweithio'n agos gyda'n hysgolion ac wedi gwneud y penderfyniad anodd hwn rŵan i roi cymaint o rybudd â phosib i rieni o ddiwedd dysgu wyneb yn wyneb ddydd Gwener.
“Wrth i’r amrywiolyn Omicron ddod i’r amlwg, cynnydd yn nifer yr achosion ledled y DU a’r newid yn lefel y rhybudd, rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i amddiffyn disgyblion a staff ysgolion.
“Bydd dysgu ar-lein yn parhau ddydd Llun a dydd Mawrth (Rhagfyr 20fed a’r 21ain) hyd at ddiwedd y tymor.
“Hoffwn ddiolch unwaith eto i’n holl athrawon am eu hymroddiad parhaus yn ystod y cyfnod anodd hwn, i ddisgyblion am eu cefnogaeth i helpu i reoli’r firws ar safleoedd ysgolion ac i rieni am fynd â’u plant am brofion pan ofynnir iddynt wneud hynny gan Wasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu.
“Er gwaethaf yr anawsterau wrth barhau ag addysg yn ystod y pandemig, mae pawb sy'n cymryd rhan wedi rhoi eu gorau glas i sicrhau bod ein plant yn cael yr addysg orau bosibl."
Geraint Davies
Pennaeth Addysg, Sir Ddinbych