Cyfweliadau Blwyddyn 11


Yn ddiweddar cymerodd Blwyddyn 11 ran mewn ffug gyfweliadau er mwyn datblygu eu sgiliau cyflogadwyedd. Croesawyd dros 20 o gyflogwyr o ystod eang o ddiwydiannau atom gan gynnwys sectorau megis lletygarwch, STEM, y gyfraith a gofal iechyd. Nid yn unig y bu i’r myfyrwyr fireinio eu techneg cyfweliad ond cawsant hefyd gyfle i ddysgu am yr ystod eang o gyfleoedd gyrfa sydd ar gael iddynt yn y dyfodol.